09/07/2025

Cymru Wledig LPIP - (dyddiad cau: 29/08/25)

 



A oes rhywbeth fel thema, achos neu syniad yn eich cymuned yr hoffech wybod mwy amdano? 

Ydych chi’n pryderi am archwilio pynciau a fydd yn gwneud newid cadarnhaol I'ch cymuned? 

Croeso Cynnes 2025 (dyddiad cau: 29/08/25)

 




Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cyllid i gefnogi mannau diogel a chynnes ar draws Gwynedd

I dderbyn ffurflen gais cysylltwch drwy e-bostio Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 679870


07/07/2025

Parkinson's - Grantiau gweithgarwch corfforol i gymunedau a ymyleiddiwyd (dyddiad cau 10/08/25)

 Nod ein rhaglen grantiau peilot newydd yw helpu mwy o gymunedau a ymyleiddiwyd i ddarparu sesiynau gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl sy’n dioddef o Parkinson's.

*Rhagor o wybodaeth yma

Darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru (lansio 23/07/25)

 

Darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru

 

Dyma nodyn i'ch hysbysu fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant, ychydig dros £1.4 miliwn y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029 er mwyn cydlynu a darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru.

 

27/06/2025

Lloyds Foundation - Dyddiad cau 04/09/25

Rydym yn croesawu ceisiadau gan elusennau a CICs sy’n cael eu harwain gan ac yn gweithio gyda phobl Fyddar a phobl Anabl sy’n profi tlodi.

O dan y rhaglen hon, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grant o £75,000 dros dair blynedd (£25,000 y flwyddyn), ynghyd â chefnogaeth bwrpasol eang sydd wedi’i hanelu at gryfhau elusennau ac adeiladu gwybodaeth, sgiliau a galluoedd eu staff a’u ymddiriedolwyr. Dysgwch fwy am beth i’w ddisgwyl wrth weithio gyda ni yn y modd hwn.

For further details: https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/funding/deaf-and-disabled-peoples-organisations-fund/

Y dyddiad cau ar gyfer anfon eich ceisiadau yw 5pm, 4ydd Medi 2025.

Cynllun Grant 200 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian 2025


I nodi 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern, mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRhC) wedi lansio Cronfa Grantiau Cymunedol 2025, sy’n cynnig cefnogaeth ariannol i brosiectau sy’n dathlu hanes y rheilffordd ac yn cyfrannu at ddatblygiad cymunedol.
Mae gwobrau o hyd at £500 ar gael i sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd a grant. Cyfanswm y pot grant sydd ar gael yw £9,000.
CYMHWYSTER

Cronfa Urddas Mislif

 


19/06/2025

Arloesi i Dyfu

 

Mae cynllun Arloesi i Dyfu gan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin yn targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd ledled Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol ynghylch atal ac ymdrin â drygion.

 

Cliciwch i ddysgu mwy: More Information/ Exclusions

Cymru Wlediig LPIP - Dyddiad cau: 29/08/25

 

Grant o £20,000 ar agor nawr ar gyfer cymunedau gwledig yng Nghymru

Ydych chi'n rhan o gymuned wledig yng Nghymru gyda syniad i lunio'ch cymuned ar gyfer dyfodol gwell yn lleol?

Ar 16 Mehefin 2025 lansiodd Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig Rural Wales y Grant Rhaglen Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned LPIP Cymru Wledig.

Mae hwn yn gyfle newydd i hyd at chwe chymuned wledig gael £20,000 i archwilio'r hyn sy'n bwysig yn lleol a all arwain at newid positif.

 

Tesco - Grant Cryfach yn Dechrau

 

Gwybodaeth pellach: www.tescostrongerstarts.org.uk 

Mantell Gwynedd have also organised a Meet the Funder – Tesco Stronger Starts between 11am-12pm on 07/07/25. I logi eich lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrdd-a-cyllidwr-meet-the-funder-tesco-stronger-starts-tickets-1383826204429?aff=oddtdtcreator

23/05/2025

Parc Cenedlaethol Eryri - Cronfa Cymunedau Eryri - dyddiad cau 01/08/25

'Da ni'n falch o gyhoeddi lansio Cronfa Cymunedau Eryri - cronfa gyfalaf sydd wedi’i hanelu at gefnogi cymunedau o fewn ac o gwmpas Eryri i fod yn fwy gwydn a chynaliadwy. Gall grwpiau a sefydliadau lleol ymgeisio am grantiau o £5,000–£25,000 er mwyn cefnogi prosiectau datgarboneiddio fydd o fudd i'n cymunedau. Dyddiad cau: 01/08/25

Mwy o wybodaeth a ffurflen gais: Cliciwch am wybodaeth pellach