Darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru
Dyma nodyn i'ch hysbysu fod Llywodraeth Cymru
wedi darparu cyllid grant, ychydig dros £1.4 miliwn y flwyddyn ar gyfer y
cyfnod 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029 er mwyn cydlynu a darparu gwasanaethau
gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru.
Bydd y broses ymgeisio am gyllid grant yn
agor ar 23 Gorffennaf 2025, gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
ceisiadau ar 15 Hydref 2025 erbyn 5pm.
Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn pan fydd y broses ymgeisio am
grant yn agor. Yn dilyn lansio'r grant ar 23 Gorffennaf, bydd cyfnod o 4
wythnos ar gyfer derbyn unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r grant. Dylid
anfon unrhyw gwestiynau sydd gennych yn ystod y cyfnod hwnnw, ac nid cyn hynny,
at: HousingManagementAndHomelessnessPreventionPolicy@llyw.cymru