Nod ein rhaglen grantiau peilot newydd yw helpu mwy o gymunedau a ymyleiddiwyd i ddarparu sesiynau gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl sy’n dioddef o Parkinson's.
Gall cymunedau a ymyleiddiwyd yn y DU
ymgeisio am hyd at £3,000 o gyllid fel rhan o’n cynllun peilot grantiau newydd.
Bydd y grantiau yn helpu mwy o bobl â Parkinson's o gymunedau a ymyleiddiwyd i
gymryd rhan mewn dosbarthiadau gweithgarwch corfforol lleol.
Mae’r ffenestr ymgeisio
ar agor rhwng dydd Llun 2 Mehefin a dydd Sul 10 Awst.
I wneud cais am grant, mae angen i chi
naill ai fod yn gweithio gyda, neu fod yn rhan o un o’r cymunedau a
ymyleiddiwyd a grwpiau cymunedol a restrwyd isod. Neu gallech fod yn gweithio
gyda’r gymuned Parkinson’s mewn unrhyw un o’r lleoliadau a restrir isod.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys neu
os oes angen cyngor arnoch ar y meini prawf gofynnol i wneud cais am un o’r
grantiau newydd, gall eich Rheolwr Datblygu Ardal (ADM) lleol eich
cynorthwyo. *Dewch o
hyd i'ch Rheolwr Datblygu Ardal lleol ar y map hwn.
Grantiau i ddarparwyr
gweithgarwch corfforol
Mae ein cynllun grant yn helpu i gyllido
darparwyr gweithgarwch er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl â Parkinson's ddod a
chadw’n heini.
Rydym yn darparu grantiau hyd at £3,000 i
gefnogi prosiectau gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl â Parkinson's ym mhob
cwr o’r DU.
I wneud cais am grant, dilynwch y camau ar
*y dudalen
hon. Mae gennym rai adnoddau cefnogi cais i’ch
helpu i wneud y cais gorau.
Rydym hefyd yn rhedeg rhaglen grantiau
peilot newydd i helpu mwy o gymunedau a ymyleiddiwyd i ddarparu sesiynau
gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl sy’n byw â Parkinson's. Rhagor o
wybodaeth am y grantiau gweithgarwch corfforol ar gyfer cymunedau a
ymyleiddiwyd.