15/08/2025

Ailagor Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Reopening

 

Bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ailagor fel a ganlyn:

  • 1 Medi 2025 ar gyfer ceisiadau o dan £25,000; a
  • 1 Hydref 2025 ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ceisiadau mwy, hyd at £300,000.

Bydd ffurflenni cais a chanllawiau ar gyfer ceisiadau ar gael ar Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol o'r dyddiad priodol ymlaen.

11/08/2025

Cronfa Cydnerthedd Cymunedol 2025/26, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru (dyddiad cau 29/08/25)



Gall sefydliadau cymunedol, elusennau a Chwmnïau Budd Cymunedol (gweler y meini prawf cymhwysedd) yn y gymuned leol (o fewn 5 milltir i’r gorsafoedd) wneud cais am arian i gefnogi prosiectau sy’n targedu cynhwysiant cymdeithasol, yn annog newid ymddygiad, yn gysylltiedig â gweithgareddau iechyd a lles, a lle bo’n bosibl, yn annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae grantiau hyd at £1000 ar gael, a chyfanswm yr holl grantiau yw £20,000


29ain Awst 2025 - Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau 

 

 

Am fwy o wybodaeth: https://cvsc.org.uk/cy/for-organisations/funding/conwy-valley-north-wales-coast-community-railway-partnership

Prif Grant Gwirfoddoli Cymru - Dyddiad cau: 24/10/25

 

Mae cynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru yn cefnogi prosiectau sy’n creu profiadau gwirfoddoli ystyrlon, yn chwalu’r rhwystrau i gymryd rhan ac sy’n gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau.