26/03/2026

Rhaglen grant cyfalaf Ynni Cymru 2026 i 2027 (cau 21/05/26)

Mae Ynni Cymru yn falch o gyhoeddi bod y ffenestr ymgeisio ar gyfer cynllun grant cyfalaf 2026/27 ar gyfer prosiectau System Ynni Lleol Clyfar (SLES) bellach ar agor.

Bydd y cynllun ar agor i'r sector cyhoeddus, sectorau gwirfoddol/cymunedol/menter gymdeithasol a busnesau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

 

Bydd prosiectau SLES llwyddiannus yn cyfuno technoleg cynhyrchu ynni adnewyddadwy, data a rheolyddion a storio ynni i bweru gweithrediadau cyffredinol, gwres neu drafnidiaeth.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 21ain Mai 2026.

 

Dewch o hyd i ganllawiau'r cynllun a'r ffurflen gais drwy'r dolenni isod:

Rhaglen grant cyfalaf Ynni Cymru 2026 i 2027: canllawiau | LLYW.CYMRU

 

Llwybr 1 - Cynllun cyllid grant cyfalaf Ynni Cymru 2026 i 2027: ffurflen gais (Llwybr 1: Prosiectau Systemau Ynni Lleol Clyfar)

 Llwybr 2 - Cynllun cyllid grant cyfalaf Ynni Cymru 2026 i 2027: ffurflen gais (Llwybr 2: Prosiectau Systemau Ynni Lleol Clyfar)