Oes gennych chi ofod cymunedol sydd wedi ei esgeuluso a allai gael ei droi’n rhywbeth anhygoel? Dychmygwch ei drawsnewid yn ardd fywiog, tyfu bwyd, cefnogi bywyd gwyllt, a dod â phobl ynghyd.
Mae mwy o becynnau gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar gael!
Unwaith eto, gall grwpiau cymunedol a sefydliadau
ledled Cymru wneud cais am becynnau gardd rhagdaledig, am ddim i helpu i droi
mannau segur yn ardaloedd gwyrdd ffyniannus.
P’un ai eich bod yn gobeithio tyfu bwyd, cefnogi
bywyd gwyllt lleol, neu greu man cymunedol tawel, mae pecyn gardd i chi.
Pecynnau sydd ar gael:
- Pecynnau Gardd Fach – Yn ddelfrydol ar
gyfer grwpiau sy’n lansio prosiectau garddio bach
- Pecynnau Gardd – Yn berffaith ar gyfer
trawsnewidiadau mwy i erddi cymunedol
- Pecynnau Gardd Enfawr – Wedi eu
dylunio ar gyfer prosiectau uchelgeisiol ar raddfa fawr
- Pecynnau Adlenwi – Ar gyfer gwella
gerddi Lleoedd Lleol ar gyfer Natur presennol
- Pecynnau Perllan – Perffaith ar gyfer
grwpiau cymunedol ac ysgolion i dyfu coed ffrwythau, plannu bylbiau, a
chefnogi bywyd gwyllt
Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion brodorol,
offer, deunyddiau, ac adnoddau ymarferol i roi hwb i’ch prosiect.
Gwnewch gais nawr!
Rydym yn disgwyl galw mawr eto eleni, felly rydym
yn eich annog i wneud cais yn gynnar i sicrhau eich pecyn gardd.
Lleoedd
Lleol ar gyfer Natur - Keep Wales Tidy