04/11/2026

Cyfoeth Naturiol Cymru - Grant Dylunio Manwl (cau 31/01/27)

Mae’r Grant Dylunio Manwl ar gyfer Draenio Cynaliadwy wedi cael cyllid o £300,000 gan y Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵwr i gefnogi datblygiad cynlluniau draenio trefol cynaliadwy ôl-ffitio ar raddfa fach neu gynlluniau draenio cynaliadwy (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel SuDS) yng Nghymru.

Gwybodaeth allweddol:

·   Mae gan CNC gronfa o £300,000 ar gyfer grantiau datblygu dylunio manwl rhwng £30,000 a £60,000.

·   Gall ymgeiswyr ofyn am hyd at 100% o gostau’r prosiect.

·   Bydd CNC yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi.

·    Bydd arian cyfatebol yn cael ei ystyried yn fanteisiol. Gall arian cyfatebol gynnwys: cyfraniad ariannol, amser gwirfoddolwyr ac amser staff.

·    Rydym yn derbyn ceisiadau o 1 Tachwedd 2026 ar wefan CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfleoedd cyllid grant presennol.

·    Rhaid i ymgeiswyr wneud cais cyn hanner nos 23:59 ar yw 31 Ionawr 2027.

·    Nod CNC yw rhoi penderfyniad i ymgeiswyr ar eu cais erbyn mis Mawrth 2027.

·   Y dyddiad olaf i hawlio fydd 30 Tachwedd 2027.

·   Cynhelir gweminarau ar gyfer ein rhanddeiliaid a’n partneriaid allanol ar 17 Tachwedd 2026.Cofrestrwch ar ein gwefan.