Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant, ychydig dros £1.4 miliwn y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029 er mwyn cydlynu a darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru.
Mae’r broses ymgeisio am y cyllid grant yn agor heddiw (23 Gorffennaf 2025), a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Hydref 2025 am 5 o’r gloch.
Ni dderbynnir ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau.
Rhaid anfon unrhyw gwestiynau ynghylch y Grant erbyn 20 Awst 2025 am 5 o’r gloch. Dylid anfon unrhyw gwestiynau at: HousingManagementAndHomelessnessPreventionPolicy@llyw.cymru
Cofiwch – caiff rhestr o’r ymatebion i’r holl gwestiynau ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a’i diweddaru’n rheolaidd. Wrth ofyn cwestiwn, felly, cofiwch y bydd eich cwestiwn a’r ymateb yn cael eu cyhoeddi.
Gweler y nodiadau
canllaw a’r ffurflen gais sydd ynghlwm i gael gwybod
mwy. Maent i’w gweld:
https://www.llyw.cymru/grant-gwasanaeth-cyngor-ar-ddigartrefedd-canllawiau
https://www.llyw.cymru/grant-gwasanaeth-cyngor-ar-ddigartrefedd-ffurflen-gais