07/10/2026

Arian i Bawb y Loteri Genedlaeth Cymru/Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol


1.       Trosolwg

2.       Pwy all wneud cais

3.       Pwy sy'n methu gwneud cais

4.       Yr hyn sydd angen i ni ei wybod pan fyddwch chi'n gwneud cais

5.       Ar beth y gallwch chi wario’r arian

6.       Cyflawni eich prosiect yn Gymraeg

7.       Sut i wneud cais



·   Lleoliad y prosiect: Cymru

·   Swm: £300 i £20,000

·   Penderfyniad mewn: 12 wythnos

·   Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau


Rydym yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn gwella cymunedau ledled Cymru. Gallwch wneud cais am grant rhwng £300 a £20,000 ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at ddwy flynedd.


Yr hyn y gallwn ei ariannu


Gallwch ddefnyddio'r arian i:

·   ddechrau gweithgaredd newydd neu barhau ag un sy'n bodoli eisoes

·        helpu eich sefydliad i addasu i heriau newydd


Rydym yn ariannu prosiectau sy’n:

·   dod â phobl at ei gilydd i feithrin perthnasoedd cymunedol cryf

·        gwella llefydd a mannau pwysig i gymunedau

·        cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial trwy gymorth cynnar

·        cefnogi cymunedau sy'n wynebu heriau oherwydd yr argyfwng costau byw