09/10/2026

Arian Parod i Glybiau hyd at £2000

Mae Cash4Clubs yn gynllun grantiau bach ar gyfer clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol i'w ddefnyddio fel y gwelant yn dda, boed hynny i brynu offer newydd, ennill cymwysterau hyfforddi neu fuddsoddi yng nghynaliadwyedd eu clwb.

 

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae cyllid ar gael i grwpiau sy'n cefnogi pobl dros 18 oed yn unig. Mae'r cyllid yn ddigyfyngiad, sy'n golygu bod sefydliadau'n gallu penderfynu sut orau i ddefnyddio'r grant i gefnogi cyflwyno eu gweithgareddau.

Nod Cash4Clubs yw cael arian hanfodol i glybiau sydd ei angen fwyaf, gan flaenoriaethu grwpiau sy'n gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ac ymgysylltu ag oedolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gymunedau amrywiol o ran hil, pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+

Cash4Clubs - Sported – Ar Agor Nawr